BETH MAE UNIQUE YN CYNNIG?
Cefnogaeth a Gwybodaeth
Mae Unique yn cynnig cyfeillgarwch a chefnogaeth i unigolion
Trans* gan pobl Trans* eu hunain. Mae gennym gyfoeth o brofiad personol a chysylltiadau
defnyddiol o fewn y gymuned leol a'r proffesiynau gofalu.
Cyfarfodydd misol
Rydym yn cynnig amgylchedd cyfeillgar a diogel lle gall pobl trawsrywiol
cyfarfod unwaith y mis, dod o hyd i gymorth a gwneud ffrindiau. Mae Unique yn grwp
cynhwysol sy'n croesawu pawb trawsrywiol, ble bynnag y maent ar y sbectrwm, ynghyd
â phartneriaid, ffrindiau ac unrhyw un sy'n dymuno i gefnogi'r gymuned Drawsrywiol.
All-
Mae Unique yn cynnig gwybodaeth a hyfforddiant i'r gymuned ehangach a chyrff cyhoeddus, er mwy hyrwyddo ymwybyddiaeth o pobl a materion Trans*.
Mae Trans* yn derm cyffredinol, cynhwysol o unrhyw un sy'n teimlo bod y rhyw / rhywedd geni (gwryw neu fenyw) yn naill ai disgrifiad anghywir neu'n anghyflawn ohonyn nhw.
*